Psalms 102

Gweddi person ifanc sydd mewn trafferthion

Gweddi rhywun sy'n diodde, ac yn tywallt ei galon o flaen yr Arglwydd.

1O Arglwydd, clyw fy ngweddi;
gwrando arna i'n gweiddi am help.
2Paid troi cefn arna i
pan dw i mewn trafferthion.
Gwranda arna i!
Rho ateb buan i mi pan dw i'n galw.
3Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg,
ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.
4Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt.
Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.
5Dw i ddim yn stopio tuchan;
mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen.
6Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch;
fel tylluan yng nghanol adfeilion.
7Dw i'n methu cysgu.
Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.
8Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd;
maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen.
9Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i,
ac mae fy niod wedi ei gymysgu â dagrau,
10am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.
Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!
11Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;
dw i'n gwywo fel glaswellt.
12Ond byddi di, Arglwydd, ar dy orsedd am byth!
Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!
13Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.
Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati!
Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.
14Mae dy weision yn caru ei meini,
ac yn teimlo i'r byw wrth weld y rwbel!
15Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw'r Arglwydd.
Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander.
16Bydd yr Arglwydd yn ailadeiladu Seion!
Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.
17Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen;
dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.
18Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,
er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r Arglwydd.
19Bydd yr Arglwydd yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn,
Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,
20ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.
Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth.
21Wedyn bydd enw'r Arglwydd yn cael ei gyhoeddi o Seion,
a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.
22Bydd pobl o'r gwledydd i gyd
yn dod at ei gilydd i addoli'r Arglwydd.
23Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith,
Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.
24“O Dduw, paid cymryd fi
hanner ffordd drwy fy mywyd! –
Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau.
25Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm;
a gwaith dy ddwylo di ydy'r sêr a'r planedau.
26Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros.
Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.
Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.
27Ond rwyt ti yn aros am byth –
dwyt ti byth yn mynd yn hen!
28Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma,
a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.”
Copyright information for CYM